Annwyl Aelodau
cc Staff Grwpiau a Staff Cymorth
CRYNODEB O GYFARFOD Y BWRDD TALIADAU A GYNHALIWYD AR 22 CHWEFROR 2024
Cyfarfu Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd ddydd Iau 22 Chwefror yn dilyn sesiwn galw heibio gyda’r Aelodau ar yr un diwrnod a oedd yn canolbwyntio ar yr adolygiad thematig o gydnabyddiaeth ariannol a chymorth personol yr Aelodau.
Mae’r llythyr hwn yn rhoi crynodeb o brif drafodaethau a phenderfyniadau’r Bwrdd. Mae gwybodaeth am gyfarfodydd blaenorol y Bwrdd ar gael yma.
Unwaith eto hoffwn ddiolch i’r Aelodau, staff a chynrychiolwyr undebau am eich cyfraniad amhrisiadwy wrth ddarparu tystiolaeth mewn ymateb i’r ymgynghoriad ar yr Adolygiad Blynyddol o’r Penderfyniad ar gyfer 2024-25. Diolch hefyd i’r Aelodau a staff am gymryd amser allan o'ch amserlenni prysur i gymryd rhan mewn cyfweliadau, grwpiau ffocws a'r arolwg gyda Beamans fel rhan o gam un yr adolygiad thematig o Gymorth Staffio.
Adolygiad blynyddol o’r Penderfyniad ar Gyflogau a Lwfansau’r Aelodau ar gyfer 2024-25
Trafododd ac ystyriodd y Bwrdd yr ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad ar yr Adolygiad Blynyddol o'r Penderfyniad.
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 15 Rhagfyr a 26 Ionawr a nododd gynigion i gynyddu’r symiau y gall yr Aelodau eu hawlio ar gyfer eu costau busnes yn ôl ffigur mynegai prisiau defnyddwyr mis Ionawr 2024, a gyhoeddwyd ar 14 Chwefror ar 4 y cant. Cynigiodd yr ymgynghoriad y byddai’r cap o 3 y cant ar gyfer codiadau cyflog ar gyfer Cyflogau Staff Cymorth yr Aelodau yn cael ei ddatgymhwyso, a byddai cyflogau’n cynyddu yn unol ag ASHE o 5.7 y cant, a nododd hefyd y byddai cyflogau’r Aelodau’n cynyddu yn unol â’r cap o 3 y cant fel y nodir yn y Penderfyniad.
Roedd cefnogaeth gyffredinol yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad i'r cynigion i gynyddu costau busnes yr Aelodau yn ôl mynegai prisiau defnyddwyr mis Ionawr (sef 4 y cant) a chynigion ynghylch codiadau cyflog Staff Cymorth yr Aelodau, ac felly mae'r Bwrdd yn bwriadu cytuno'n ffurfiol ar y cynigion hyn yng nghyfarfod mis Mawrth. Yn dilyn adborth ymgynghori ar gynigion i derfynu'r lwfans gweithio gartref ar gyfer Staff Cymorth yr Aelodau, mae'r Bwrdd wedi adolygu a chytuno i gadw'r lwfans gweithio gartref ar gyfer 2024-25.
Nod cynigion eraill yr ymgynghorwyd arnynt oedd symleiddio’r Penderfyniad, yn seiliedig ar ymgysylltiad y Bwrdd â’r Aelodau a Staff Cymorth, adborth gan y Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd a nifer a nodwyd drwy waith parhaus y Bwrdd i symleiddio'r Penderfyniad, dan arweiniad Hugh Widdis.
Bydd y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau terfynol ar newidiadau i’r Penderfyniad ar gyfer 2024-25 yn ei gyfarfod ar 14 Mawrth, gyda Phenderfyniad 2024-25 yn cael ei gyhoeddi ddiwedd mis Mawrth, a bydd yr Aelodau’n cael gwybod am yr holl newidiadau yn dilyn cyfarfod mis Mawrth a rhesymau’r Bwrdd dros ei benderfyniadau.
Adolygiadau thematig a diweddariadau eraill
Trafododd y Bwrdd y cynnydd hyd yma o ran cynnal ei bum adolygiad thematig ac ystyriodd y camau nesaf ar gyfer cyflawni’r Penderfyniad ar gyfer Seithfed Senedd.
Mae rhagor o wybodaeth am adolygiadau thematig a rhaglen waith strategol y Bwrdd ar gyfer gweddill tymor y Senedd ar gael yma.
Bu'r Bwrdd hefyd yn trafod sawl diweddariad arall a nododd y bydd Cadeirydd y Bwrdd yn cyfarfod â Chadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i drafod yr ymchwiliad parhaus i Urddas a Pharch.
Byddwch yn cael y diweddariadau hyn yn dilyn pob un o gyfarfodydd y Bwrdd. Yn y cyfamser, os hoffech godi unrhyw fater gyda mi neu’r Bwrdd, mae croeso ichi gysylltu drwy anfon neges e-bost at taliadau@senedd.cymru.
Yn gywir
Dr Elizabeth Haywood
Cadeirydd, Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd
Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English